Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 3 Chwefror 2021
Amser:
08.47 -
12.08
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11077
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Russell George AS (Cadeirydd) Hefin David AS Suzy Davies AS Mike Hedges AS Vikki Howells AS Helen Mary Jones AS |
Tystion: |
Scott Pearson, Cludiant Casnewydd John Burch, Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Jane Reakes-Davies, First Cymru Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Sioned Evans, Llywodraeth Cymru Emma Watkins, Llywodraeth Cymru Duncan Hamer, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Robert Donovan (Clerc) Robert Lloyd-Williams (Dirprwy Glerc) Andrew Minnis (Ymchwilydd) Ben Stokes (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson AS
1.2 Dirprwyodd Mike Hedges AS ar ran Joyce Watson AS
1.3 Ni chafodd unrhyw fuddiannau eu datgan
2 Cymorth a chyllid i weithredwyr bysiau
2.1 Atebodd Scott Pearson, Cadeirydd Cymdeithas Coetsus a Bysiau Cymru; Jane Reakes-Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr First Cymru Buses Ltd; a John Burch, Rheolwr Cymru a Gorllewin Lloegr, Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr, gwestiynau gan aelodau’r pwyllgor.
2.2 Cytunodd John Burch i gyflwyno rhagor o fanylion am yr addasiadau rhwng nifer y teithwyr y cyllidwyd ar eu cyfer a’r niferoedd gwirioneddol ledled yr ardal dan sylw.
3 Craffu Cyffredinol ar Waith y Gweinidogion - Cymorth Busnes Covid-19
3.1 Atebodd Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru; Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth; Sioned Evans, Cyfarwyddwr, Busnes a Rhanbarthau; Duncan Hamer, Prif Swyddog Gweithredu Busnes a’r Rhanbarthau; ac Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Economaidd, gwestiynau gan aelodau’r pwyllgor.
3.2 Cytunodd Ken Skates AS i anfon copi o’r tabl sy’n cael ei lunio i gymharu’r cymorth busnes a gynigir yng Nghymru â’r cymorth a gynigir yng ngweddill y Deyrnas Unedig.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
4.1 Derbyniwyd y cynnig gan y pwyllgor.
5 Preifat
5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y sesiwn.